Croeso i'r System Rheoli Termau.
Mae’r system wedi’i seilio ar feddalwedd rheoli termau Terminologue gan Dublin City University, system gysyniad-ganolog ar gyfer rheoli cronfeydd termau sy’n seiliedig ar safonau rhyngwladol gan gynnwys ISO 704.
Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn y broses o symud drosodd o’r feddalwedd a ddatblygwyd gennym yn fewnol tuag at ddefnyddio Terminologue.
Fel rhan o’r broses hon rydym wedi cymryd y feddalwedd cod agored yma a’i gwella ymhellach drwy:
Ailbeiriannu’r cronfeydd data i redeg ar Postgress yn hytrach na SQLlite ar gyfer lefelau menter o gydamseroldeb a chadernid
Integreiddio gyda System Ymchwil Terminoleg i wella’r broses ymchwil a chynyddu’r gallu i ddarganfod ymchwil flaenorol
Gyda’i gilydd, mae’r System Rheoli Termau a’r System Ymchwil Termau yn ffurfio’r Drefn Llif Gwaith Terminoleg.